Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Beti a'i Phobol: Bryn Fôn - 29/01/1991
10/04/2017 Duración: 37minCyfle i wrando eto ar Beti George yn sgwrsio gyda Bryn Fôn nôl yn 1991.
-
Kevin 'Kev Bach' Williams
30/03/2017 Duración: 41minBeti George yn holi Kevin 'Kev Bach' Williams, DJ radio masnachol yng ngogledd Cymru. Beti George chats to Kevin 'Kev Bach' Williams, a commercial radio DJ in north Wales.
-
Dennis Davies
23/03/2017 Duración: 50minBeti George yn holi Dennis Davies, un o hoelion wyth ardal Llanrwst sy'n gyfaill yr eisteddfodau bychain a'r gwyliau cenedlaethol. Beti George chats to Dennis Davies from Llanrwst.
-
Richard Huws
13/03/2017 Duración: 43minBeti George yn sgwrsio â Richard Huws o fferm Pant Du ym Mhenygroes.Mae'r busnes llewyrchus hwn yn gwerthu gwin, seidr, sudd afal, a dŵr ffynnon.
-
Siân Gwenllian
07/03/2017 Duración: 48minBeti George yn holi'r gwleidydd Siân Gwenllian o Blaid Cymru.Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr, daeth yn swyddog cyfathrebu i Gyngor Gwynedd, cyn cael ei hethol i gynrychioli'r Felinheli ar y cyngor hwnnw.Newidiodd ei bywyd yn llwyr ym mis Mai 2016, pan gafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Arfon. Yn fam i bedwar o blant, mae'n parhau i fyw yn yr ardal ble cafodd ei magu.
-
Prydwen Elfed-Owens
26/02/2017 Duración: 51minBeti George yn sgwrsio â Prydwen Elfed-Owens. Beti George chats to Prydwen Elfed-Owens.
-
Emyr Glyn Williams
19/02/2017 Duración: 48minMae Emyr Glyn Williams yn rhan annatod o ddiwylliant cerddorol Cymru. Yn un o sefydlwyr label recordio Ankst, fe weithiodd gyda rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y wlad fel Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals.Mae ei ddiddordeb mewn ffilmiau yr un mor heintus, ag yntau'n gyfarwyddwr ffilm ac awdur llyfr ar y pwnc.Mae bellach yn byw ar Ynys Môn, gan gyfuno bod yn gyfrifol am raglen sinema Pontio ym Mangor â'i waith gydag Ankst Music.
-
Bethan Rhys Roberts
12/02/2017 Duración: 47minMae Bethan Rhys Roberts wedi teithio'r byd yn sgîl ei gwaith fel newyddiadurwraig, yn ogystal â gweithio yn San Steffan am gyfnod.Yn wreiddiol o Fangor, mae'n siarad pedair iaith, ac i'w gweld yn gyson yn cyflwyno Newyddion 9 ar S4C.
-
Mari Griffith
29/01/2017 Duración: 49minCafodd Mari Griffith ei magu ym Maesteg, ond fe deithiodd y byd yn gweithio ar raglenni adloniant a cherddoriaeth. Dyna yw ei byd, ac roedd ei wyneb a'i llais yn gyfarwydd iawn i wylwyr Disc a Dawn. Ar ôl gyrfa faith, mae hi bellach wedi troi ei llaw at ysgrifennu.
-
Dewi Tudur
22/01/2017 Duración: 48minDewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, yw gwestai Beti George.Fo oedd y cyntaf un i sefyll arholiad Lefel A celf drwy gyfrwng y Gymraeg.Bu'n athro mewn sawl ysgol uwchradd, ond newidiodd ei fywyd yn sgîl gwyliau arbennig yn yr Eidal. Oherwydd hynny, mae bellach yn byw ger Fflorens gyda'i deulu.
-
Jeremy Turner
15/01/2017 Duración: 47minMae Jeremy Turner, a gafodd ei eni'n Aberdâr, yn actor profiadol ac yn adnabyddus am sefydlu Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth.Aeth ati i sefydlu gŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, gan wahodd cwmnïau o Gymru ac o dramor i berfformio.Mae wedi teithio'r byd yn perfformio, ac yn hoff o gynyrchiadau sydd yn delio â materion cyfoes.
-
Mark Lewis Jones
21/12/2016 Duración: 45minYr actor Mark Lewis Jones yw gwestai Beti George mewn rhaglen wedi'i recordio ychydig ar ôl iddo ennill categori'r actor gorau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2016 am ei bortread o Stanley yn Yr Ymadawiad. Wedi'i eni yn Rhosllannerchrugog, dechreuodd ei yrfa gyda Theatr Ieuenctid Clwyd cyn mynd ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.Mae ei waith diweddar yn cynnwys Stella, Byw Celwydd a National Treasure.
-
Ed Holden
11/12/2016 Duración: 45minGwers rapio? Pam ddim!Ed Holden, y rapiwr adnabyddus o Borthmadog, sy'n ymuno â Beti George i rannu hanes ei fagwraeth a'i yrfa o Genod Droog i Mr Phormula.Yn ogystal â pherfformio ar hyd a lled Cymru, mae o hefyd wedi bod i lefydd fel Yr Eidal, America, Sbaen a Ffrainc.
-
Huw Penallt Jones
04/12/2016 Duración: 45minMae Huw Penallt Jones wedi dychwelyd at ei wreiddiau ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau.Cafodd gwrdd â rhai o sêr Hollywood, yn ogystal â James Bond, ac mae ganddo fwy nag un stori ogleisiol am hwn a'r llall.Roedd yn byw ger y ffin â Mecsico am gyfnod, ond mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar fin newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.
-
Trefor Davies
27/11/2016 Duración: 46minBeti George yn holi'r entrepreneur cyfrifiadurol Trefor Davies.Cafodd ei eni yn Llundain cyn treulio cyfnodau yn Nolgellau, Waunfawr ac Ynys Manaw.Wedi gadael yr ysgol, aeth i'r brifysgol ym Mangor cyn symud i Lincoln i weithio i gwmni Marconi.
-
Awen Iorwerth
20/11/2016 Duración: 46minBeti George yn holi Awen Iorwerth, llawfeddyg sy'n arbenigo ar yr ysgwydd a'r benelin.Yn wreiddiol o Fôn, fe dreuliodd gyfnodau yn Cape Town, Efrog Newydd a Sydney yn hyfforddi.Mae wedi bod yn ymgynghorydd trawma ac orthopedeg, a bellach yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Llawfeddygon Craidd Cymru.
-
Brian Jones
06/11/2016 Duración: 52minBeti George yn sgwrsio â Brian Jones, rheolwr-gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell. Beti George interviews Brian Jones, managing director of Castell Howell Foods.
-
Glenda Clwyd
30/10/2016 Duración: 55minBeti George yn holi'r delynores a'r cyn-gyflwynydd teledu, Glenda Clwyd. Beti George interviews Glenda Clwyd, a harpist and former television presenter.
-
Ken Hughes
23/10/2016 Duración: 55minBeti George yn holi Ken Hughes o Borthmadog, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gwyl Cerdd Dant 2016. Beti George interviews Ken Hughes ahead of the 2016 Cerdd Dant Festival.